This book of Welsh phrases is a joyful journey around the language
of heaven. D. Geraint Lewis is a past master at leading people
along the sometimes thorny paths of Welsh and clearing the way. The
phrases contained in this book are varied, intriguing and
entertaining. Enjoy the trip.
*Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa*
Yn y gyfrol hon mae D. Geraint Lewis yn corlannu casgliad o
ymadroddion amrywiol a difyr yn yr iaith Gymraeg ac yn mynd ar
drywydd yr ymadrodd ‘pert’ yn ei arddull ddihafal ei hun. Daw’r
ymadroddion o bob cwr o fywyd Cymru, ac o bob ardal hefyd. Mae
tarddiad a chyd-destun yn ychwanegu at gyfanrwydd y darlun, ac mae
mynegai Saesneg i wneud y gyfrol yn ddefnyddiol i ddysgwyr ac
addysgwyr fel ei gilydd. Nid cyfeirlyfr mo’r gyfrol ond taith
ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith a’i nodweddion unigryw a
rhyfeddol. Mwynhewch y wibdaith.
*Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa*
‘Taith ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith a’i nodweddion unigryw
...’ medd broliant y gyfrol. Dyna air! Aeth dros hanner canrif
heibio ers i mi ei glywed o’r blaen, er mai ‘ansbaradigolaethus’
gofia i yn y fro rhwng Swyddffynnon a Thregaron.
Wn i ddim beth yn union yw ei ystyr. Rhywbeth fel ‘ysbrydoledig’,
gydag elfen o ‘carlamus’ ac ‘amarch’, goelia i. Yn rhyfedd, dim ond
ar glawr ôl y gyfrol y gwelais y gair ac ni ddeuthum o hyd iddo y
tu mewn, nac o fewn cloriau unrhyw eiriadur Cymraeg arall, chwaith,
er chwilota yn ngeiriadur William Owen Pughe (y trydydd
argraffiad), J. Bodvan Anwyl (yr wythfed argraffiad), Geiriadur
Prifysgol Cymru (1950) ac amryw eraill. Ofer fu ymgynghori â Bruce,
hefyd, ond gan nad wyf yn sicr o union ystyr Saesneg y gair,
hwyrach i mi edrych yn y lle anghywir.
Ond mewn difri, dyma gyfrol gyfoethog ac ardderchog, un y dylai pob
Cymro sy’n ei ystyried ei hun yn hanner diwylliedig ei phrynu, ei
defnyddio a’i thrysori. Mae ynddi'r casgliad gwerthfawrocaf o
ymadroddion cyhyrog Cymraeg, rhai hen a newydd, parchus a llai
parchus.
Cawn wybod ffynonellau llawer o’r ymadroddion, yn arbennig y rhai
Beiblaidd. Ond fe wna i oedi gyda’r mwy bydol, megis ‘cyllell
sbaddu malwod’ am gyllell ddiwerth heb fawr o awch iddi, a ‘rhech
mochyn coron’ – rhywbeth arall da i ddim. ‘Rhech mochyn ’whech’
gofia i. Mi fyse hwnnw’n fwy diwerth fyth!
Chlywais i erioed am ‘gi rhech’ ond y tarddiad, yn ôl D. Geraint
Lewis, oedd arfer y byddigions o fynd â chi neu ddau i’r stafell
giniawa. Pan fyddai arogleuon drwg yn llenwi’r stafell byddai
rhywun yn gafael yn un o’r cŵn a mynd ag e allan gan roi stŵr iddo
am ollwng gwynt ac arbed embaras i’r hwn oedd yn gyfrifol go
iawn.
O sôn am gŵn fe geir yr hen ddywediad, ‘ci tawel sy’n cnoi’, ond
gan hepgor yr ail linell a ddaw i’r cof – ‘gast dawel sy’n rhoi’.
Dro arall ceir ail gymal annisgwyl ac, i mi, un cwbl ddieithr –
‘mae gwaed yn dewch na dŵr (ac yn berwi’n gynt)’! Ac ambell
eglurhad doniol – ‘llyfu tin; un gradd yn waeth na sychu tin’!
Wyddwn i ddim fod y dywediad ‘dim gobaith caneri’ yn tarddu o’r
dyddiau pan aed â chaneris lawr y pyllau glo i weld a oedd nwy
yno.
Dyma gyfrol sy’n brawf o rymuster cryno’r Gymraeg, a’i hergydion
ardderchog. Casgliad o ddywediadau i’w hadfer i’n bywydau bob dydd,
i’w cyflwyno i ddysgwyr a’r cenedlaethau i ddod, ac i brocio cof y
gweddill ohonom. Gwych, hefyd, yw’r drefn o groesgyfeirio a’r
mynegai Saesneg. ‘Gorau cof, llyfr.’
*Gwyn Griffiths @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |