Hurry - Only 4 left in stock!
|
A comprehensive biography of Carwyn James (1929-83), teacher and author, broadcaster and politician, Welsh international rugby player and dazzling coach, albeit a wounded soul. Various aspects of his life and work are explored, and his rich contribution to public life in Wales is acknowledged. 88 photographs are included, a number previously unpublished.
A comprehensive biography of Carwyn James (1929-83), teacher and author, broadcaster and politician, Welsh international rugby player and dazzling coach, albeit a wounded soul. Various aspects of his life and work are explored, and his rich contribution to public life in Wales is acknowledged. 88 photographs are included, a number previously unpublished.
Cyfrol yn edrych ar agweddau amrywiol ar fywyd a gwaith Carwyn
James a'i gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru.
Wedi gwaith ymchwil manwl gan yr awdur bydd dateliadau newydd am ei
fywyd fel hyfforddwr rygbi, ei ddiddordebau academaidd a
gwleidyddol, a hefyd am ei fywyd yn yr Eidal.
Doedd Carwyn ddim yn cadw'r elfennau gwahanol yma ar wahân, roedd y
cyfan yn gymysg oll i gyd yn ei fywyd pob dydd. Er enghraifft, go
brin fod erthyglau rygbi mewn unrhyw gyhoeddiad mor frith o
gyfeiriadau llenyddol neu gerddorol.
Cofiant cynhwysfawr a fydd hefyd yn cynnwys nifer fawr o luniau na
chyhoeddwyd o'r blaen.
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Mae Carwyn James yn adnabyddus ledled y byd am fod yn un o’r
hyfforddwyr mwyaf dyfeisgar, arloesol ac ysbrydoledig a welodd y
gamp erioed. Mae’r gyfrol yn cadarnhau’r farn honno’n gryf, wrth
gwrs, ond fel sy’n gyffredin i gymaint o bobl athrylithgar a
chreadigol yn eu meysydd, mae dwy ochr dra gwahanol i Carwyn James,
ac mae cofiant Alun Gibbard yn cyflwyno’r gwahanol agweddau hyn o’i
fywyd yn effeithiol iawn.
Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn cofiant, mae llawer o
gyfeirio at deulu a ffrindiau Carwyn, ac mae ei gysylltiad â Chwm
Gwendraeth, sef yr ardal lle y cafodd ei fagu, a Rhydlewis yn ne
Ceredigion, yn hollbwysig yng ngwneuthuriad y cymeriad cymhleth
yma. A bu’r gwreiddiau dwfn yn angor iddo gydol ei oes.
Bu ei gyfnod yn Aberystwyth yn hynod bwysig iddo, ac yn y Coleg ger
y Lli y gwnaeth ddechrau ‘darganfod ei hun’. Yno y cryfhawyd ei
ddiddordeb mewn llenyddiaeth; yno yr agorwyd ei feddwl i
wleidyddiaeth; yno y cafodd gyfle i wneud ffrindiau agos gyda
chyfoedion ac yno y seliwyd ei enw fel chwaraewr rygbi o fri,
flynyddoedd cyn iddo droi at hyfforddi.
Ond roedd elfennau mwy annisgwyl i’w fywyd hefyd. Er enghraifft,
roedd hi’n syndod deall iddo benderfynu ymuno â’r llynges er nad
oedd gwir raid iddo. Tra’i fod yn cwblhau ei wasanaeth milwrol,
llwyddodd i ddysgu Rwsieg er mwyn cynorthwyo’r gwasanaethau cudd yn
y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ond hyd yn oed yn y llynges,
byddai rygbi’n cael blaenoriaeth!
Roedd darllen am gyfnod Carwyn yn yr Eidal pan fu’n hyfforddi tîm
rygbi Rovigo’n hynod ddiddorol hefyd. Roedd i’w weld yn gymharol
hapus yno, ymhell o Gymru. Ond rhoddodd hyn gyfle iddo ymdrwytho yn
niwylliant a hanes gwlad arall.
Mae’r berthynas rhwng Carwyn James ac Undeb Rygbi Cymru a’r BBC
hefyd yn cael triniaeth fanwl. A bu’r berthynas honno’n un gymhleth
hefyd. Dyma’r gŵr arweiniodd dîm rygbi’r Llewod i’w hunig
fuddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon, a hynny yn Seland Newydd.
Dyma hefyd yr hyfforddwr ysbrydoledig a sicrhaodd fod y Scarlets
wedi curo’r cewri o hemisffer y De ar y Strade yn 1973. O ddeall
hynny, mi allai rhywun dybio’n ddigon rhesymol y byddai, rywbryd,
wedi bod yn ddewiswr neu’n hyfforddwr ein tîm cenedlaethol. Ond
doedd ei bersonoliaeth ddim fel pe bai’n ffitio ar y pryd, ac mae’n
siŵr y collwyd cyfle euraid i ddefnyddio’r profiad helaeth a’r
meddwl craff i’w llawn botensial, fel sy’n cael ei gyfleu yn y
cofiant. Mae’r teimlad yna o fethu manteisio ar ei ddoniau yr un
mor gryf yn ei berthynas gyda’r BBC a’i yrfa fel darlledwr. Cafodd
dipyn mwy o lwyddiant fel colofnydd i rai o’r papurau newydd
cenedlaethol poblogaidd.
Mae’r gyfrol yn ein cyfeirio’n ddeheuig at y materion academaidd,
gwleidyddol a chelfyddydol hynny oedd o wir ddiddordeb i Carwyn.
Down i wybod am ei arwyr yn y meysydd hynny; am y bobl, y llyfrau
a’r gwaith celf y byddai’n troi atynt am gysur, am gynhaliaeth ac
am ysbrydoliaeth. Mae’n hawdd meddwl mai dim ond dyn rygbi oedd
Carwyn James gan fod ei enw’n rhan mor annatod o’r gêm, ond roedd
cymaint mwy iddo na hynny. Bu’n athro uchel ei barch yng Ngholeg
Llanymddyfri am flynyddoedd, ac roedd yn mwynhau pob elfen o
ddiwylliant a thraddodiadau Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb byw mewn
gwleidyddiaeth hefyd a bu’n sefyll i fod yn gynghorydd dros Blaid
Cymru ar un adeg.
Mae’n debyg fod yma ddeunydd newydd amdano a ffotograffau nas
gwelwyd o’r blaen, ac mae ôl ymchwilio manwl gan yr awdur yn amlwg.
Mae cynnwys y cerddi amdano’n ychwanegu at fwynhad y darllen
hefyd.
Ond gyda’i lwyddiant ym myd rygbi y daeth yn ffigwr cenedlaethol
amlwg a phoblogaidd iawn yn ystod yr 1970au. Mae’n drist meddwl bod
y cyfan wedi dod i ben mor ddisymwth. Ac mae’r ffaith iddo farw tra
oedd ar wyliau mewn gwlad dramor yn dwysáu’r tristwch. Darllen
fesul pennod ar hap a wnes i, fel mae’n digwydd, a doedd hynny ddim
wedi amharu dim ar y mwynhad wrth ddarllen. Cael y cyfle i ddod i
adnabod y dyn preifat oedd yn gorfod dygymod gyda chymhlethdodau
fel ei rywioldeb a’i alcoholiaeth oedd fwyaf dadlennol. Ei adnabod
yn well, ie, ond yn bendant nid yn llwyr, oherwydd mae cymaint o
gwestiynau o hyd heb eu hateb.
*Hefin Jones @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |