Hurry - Only 2 left in stock!
|
Nofel antur wreiddiol, Gymraeg ar gyfer yr arddegau.
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Hanes Hywel Dafydd, y bachgen pymtheg oed a adawodd harbwr
Aberdaugleddau ym mis Mehefin 1705 i fynd ar ‘fordaith ei
freuddwydion’ ac a ddaeth, ymhen amser, yn un o gapteiniaid
môr-ladron mwyaf dylanwadol y ddeunawfed ganrif a gawn yn y nofel
antur hon i ddarllenwyr yn eu harddegau. Dyma stori wreiddiol,
afaelgar sydd â chyffro’n byrlymu trwyddi ac sydd, o ddwyn dyfyniad
Siwan Rosser ar glawr blaen y llyfr, yn ‘chwip o nofel am oes aur y
môr-ladron Cymreig’.
Disgrifir y gyfrol fel ‘ffuglen hanesyddol’, ac er bod stori Hywel
Dafydd wedi’i seilio ar hanes go iawn y môr-leidr o Gymro,
defnyddiodd yr awdur dipyn o ddychymyg er mwyn rhoi cig ac esgyrn
ar y cymeriadau a’r digwyddiadau. Fe gydiodd y stori ynof o’r
cychwyn cyntaf a chefais gryn fwynhad o gael fy nhywys yng
nghwmni’r Capten Dafydd a’i griw i bedwar ban y byd a rhannu sawl
antur gyffrous â hwy.
Mae’r ysgrifennu’n fyrlymus a ffraeth, y cymeriadu’n effeithiol ac
apelgar (yn enwedig y portread o’r Capten Dafydd carismatig) a’r
digwyddiadau llawn cyffro yn dod yn fyw ym meddwl y darllenydd.
Teimlais sawl tro fel pe bawn yno gyda’r Capten Dafydd – yn sefyll
ar fwrdd ei longau amrywiol, neu’n ysbeilio un o longau’r gelyn.
Gwneir defnydd helaeth hefyd o idiomau a dywediadau Cymraeg
naturiol, yn ogystal ag ieithwedd arbenigol yn ymwneud â llongau a
bywyd y môr. Yn wir, mae’r cyfan yn gydnaws ag arddull brenin y
nofelau antur Cymraeg ei hun, T. Llew Jones.
Nid hawdd o beth yw ysgrifennu stori yn seiliedig ar hanes go iawn
person o gig a gwaed, yn enwedig pan fo’r person hwnnw’n ffigwr
hanesyddol oedd yn byw dros dri chan mlynedd yn ôl, ond ceir ôl
ymchwil trwyadl dros ben yn y nofel hon, fel y gwelir o’r
llyfryddiaeth helaeth yng nghefn y gyfrol. Cefais gryn fwynhad o
ddysgu am hanes y môr-leidr o Gymro na wyddwn i fawr ddim amdano
cynt ac, yn hynny o beth, llwyddodd yr awdur yn gampus i
drosglwyddo’i diddordeb hi yn hanes y môr-ladron Cymreig i’r
darllenydd.
Llongyfarchiadau mawr i Awen Schiavone ar ysgrifennu nofel gyntaf,
ac un a lwyddodd i greu cryn argraff arnaf ac a fydd yn sicr o
apelio at bobl ifanc a darllenwyr hŷn fel ei gilydd. Edrychaf
ymlaen at ddarllen mwy o’i gwaith yn y dyfodol.
*Mared Llwyd @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |