A volume dealing with mental health issues, which affect one in four persons suffer from. 11 people who have been affected by mental illness submit their experiences via poems, letters, diaries and essays. Their experiences are harrowing, but the contributors showit is possible to survive and to be hopeful about the future.
A volume dealing with mental health issues, which affect one in four persons suffer from. 11 people who have been affected by mental illness submit their experiences via poems, letters, diaries and essays. Their experiences are harrowing, but the contributors showit is possible to survive and to be hopeful about the future.
Contributions by Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Mair Edwards, Geraint Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd, Malan Wilkinson.
Ychydig iawn sydd wedi cael ei ysgrifennu am salwch meddwl, er ei fod wedi cyffwrdd nifer fawr iawn ohonom yn wir, nid oes fawr ddim wedi cael ei ysgrifennu yn Gymraeg. Croesawn felly, gyda breichiau agored, y gyfrol arbennig hon sy'n rhannu profiadau uniongyrchol o'r cyflwr. Mae'r cyfraniadau oll yn hynod onest a chredaf ei bod wedi bod yn hynod anodd ar adegau i'r cyfranwyr roi pin ar bapur. Yr hyn sy'n wych, wrth gwrs, yw eu bod wedi llwyddo i rannu eu profiadau, ac fel y mae nifer ohonynt yn sn, y mae dechrau siarad am y profiad a'i rannu yn gam yn nes at waredu'r cysgodion. Y mae'r profiadau a rennir yn y gyfrol yn ddirdynnol weithiau. Clywn yn onest iawn am iselder Alaw Griffiths, Caryl Lewis ac Angharad Tomos ar l geni plant ond yr hyn sy'n bwysig yw eu bod bellach yn medru rhannu'r profiad a'u bod wedi cyrraedd man tipyn goleuach. Cignoeth hefyd yw profiadau'r gwleidyddion Llyr Huws Gruffydd a Bethan Jenkins dau unigolyn, ar yr olwg allanol, cwbl hyderus a fyddai'n dianc rhag salwch meddwl. Ond fel mae'r gyfrol hon yn dangos, gall salwch meddwl daro pawb. Dewis cyfarch ei hanorecsia ar ffurf llythyr a wnaeth Angharad Gwyn a dyma rannu unwaith eto yn gwbl onest gyfnod cwbl uffernol yn ei bywyd ifanc. Yr un mor dywyll oedd profiad Malan Wilkinson. Cafwyd hefyd gerdd a gair o brofiad gan y Prifardd Hywel Griffiths, gwr Alaw, a cherdd bwrpasol iawn gan Iwan Rhys. Ei gerdd ef, 'Gyrru Drwy Storom', a roddodd y teitl i'r gyfrol. Doeth, yn ogystal, oedd cael mewnbwn gan y seicolegydd Dr Mair Edwards gan ei bod hi'n medru bwrw golwg yn fras ar amrywiol agweddau o'r cyflwr. Ymhellach, y mae dyfyniadau gan enwogion am salwch meddwl rhwng pob pennod yn ategu at y gyfrol. Dyma, heb os, gyfrol i bawb. Maen anodd ei darllen ar adegau ond dyma ymgais glodwiw iawn i godi'r llen ar bwnc sydd wedi bod yn tabw yn rhy hir. Cawn ein sugno i gyfnodau tywyll y cyflwr ond yn bwysicach fyth down i ddeall fod yna wastad 'haul ar fryn' yn y diwedd. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |