Mae Henri Helynt, y gwalch bach drwg, yn ei ol! Dyma'r bedwaredd nofel sydd unwaith eto yn dilyn hynt a helynt Henri a'i frawd bach perffaith, Alun Angel. Yn ol yr arfer, ni chawn ein siomi. Er mai yn Saesneg yr ysgrifennwyd y llyfr gwreiddiol gan Francesca Simon, does dim o'r hiwmor na'r hwyl yn cael ei golli yn yr addasiad gwych yma gan Sian Lewis. Mae'r iaith yn fachog ac ni ellir llai na chwerthin yn uchel wrth ddarllen y storiau. Yn wir, nid un stori a geir o fewn y llyfr hwn, ond yn hytrach pedair -- pedair stori unigol y gellir eu darllen ar wahan ac mewn unrhyw drefn. Ac os ydych yn pendroni o ble daw teitl y llyfr, wel dyna'r ail stori sy'n ein tywys ar daith wallgo yn y Peiriant Amser Ha-Hardderchog. Mae lluniau doniol ac unigryw Tony Ross yn ychwanegu at ddoniolwch y llyfr gyda'i gyffyrddiadau clyfar a chynnil. Ychwanegwch at y gymysgedd arddull amrywiol y ffont ac mi gewch y rysait berffaith ar gyfer llyfr llwyddiannus i fechgyn a merched o chwech i un ar ddeg mlwydd oed -- ac ambell oedolyn hefyd. Oes, mae 'na Henri Helynt yn llechu ym mhob un ohonom. Elen Rhys Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |