Wrth ddarllen, hawdd oedd dychmygu fy mod ar un o deithiau
Cymdeithas Edward Llwyd maer awdur yn drefnydd ac arweinydd
teithiau poblogaidd ir gymdeithas honno yng Ngwynedd ers
blynyddoedd. Cefais fy hun yn darlunio golygfeydd a sefyllfaoedd yn
fy mhen a chlywed llais dwfn Tom yn bwrw iddi yn ei arddull hwyliog
arferol i sgwrsio am enwaur pyllau a disgrifio nodweddion yr afon.
Maen gyforiog o atgofion am gymeriadau, yn enwedig wrth ddisgrifio
troeon digrir frawdoliaeth bysgota ar yr afon fel storir
cyfaill ddaliodd grocodeil yn llyn Trap!
Daw ei werthfawrogiad o fyd natur ir amlwg yn gyson, ynghyd âi
wybodaeth eang ac amrywiol o hanes lleol, enwogion a hyd yn oed
rhai o fwganod y fro. Weithiau ceir rhyw gysylltiad annisgwyl, fel
y sylw mai o Benyberth (a chwalwyd i wneud lle ir ysgol fomio
honno yn Llŷn yn 1936), y daeth ffenestri talcen un or tai sy'n
wynebu pont Llanystumdwy.
Llu o dameidiau bach felna, sydd fel arfer ond yn hysbys i un sydd
un ain frodor neu yn gyfarwydd iawn â bro ai phobl, a wnar
gyfrol hon mor ddifyr. Dichon na cheir gwybodaeth leol or fath
mewn mannau eraill yn ogystal, ond mae bob amser yn werthfawr ei
diogelu mewn print ai gosod ar lwyfan ehangach. Yn sicr bu cofnodi
a chyhoeddi enwau pyllau a chreigiaur Ddwyfor yn gymwynas
aruthrol, fel nad oes unrhyw esgus bellach dros fabwysiadu enwau
estronol yn eu lle!
Hyd yn oed os na fuoch ar gyfyl glannaur Ddwyfor, hawdd yw cael
eich cyfareddu gan yr enwau, e.e. Llyn y Meirch, Gallt y Widdan,
Pwll Berw, Llyn Maen Mawr, Carreg Llew, Llyn y Gwreiddyn, Llyn
Befran, Pwll Gorlan, Dorlan Las, a hyd yn oed y 'Llyn Pont Goncrit'
modern! Bydd y briwsion blasus a geir yma, yn enwau a hanesion, yn
siŵr och atgoffa o gyfoeth eich hanes lleol ach profiadau
chwithau.
Mae gan bob afon ei hud arbennig ei hun, syn cyffroi bob un or
synhwyrau, ond i ddod iw nabod go iawn mae gwybodaeth fel a geir
yma yn hanfodol. Llwyddodd yr awdur, heb amheuaeth, i godi cwr y
llen, gan ddilyn trywydd aml i sgwarnog, i aml gyfeiriadau, ond gan
ein tynnu'n ôl at gwrs yr afon bob tro: '. . . ond yn ôl at yr afon
rŵan, neu cyrhaeddwn ni byth ben y daith'. Ie, a thaith ddifyr dros
ben yw hi, mewn cwmni da.
*Twm Elias @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |