Hurry - Only 2 left in stock!
|
T. James Jones yw un on beirdd an llenorion mwyaf toreithiog a dylanwadol yn ystod y deg mlynedd ar hugain diwethaf. Mae wedi ennill prif anrhydeddaur brifwyl, yn gadair a choronau, wedi cyhoeddi cyfres o gyfrolau eang eu themu au cyfeiriadau, a hyd yn oed wedi disgleirio mewn ambell i stomp go amheus! Ei dir pori wastad yw'r berthynas rhwng ei ardal gynhenid, ein hanes fel cenedl a chymariaethau gwledydd a chenhedloedd eraill. Os oes rhywun wedi ceisio agor ein dychymyg an gorwelion, T. James Jones ydi hwnnw. Rhoddodd ei gasgliad o gerddi Ianws, ei gynnig o a Jon Dressel am y goron yn eisteddfod Caernarfon, 1979, gic yn nhin y sefydliad Cymreig -- yn ein herio fel cenedl i ystyried o ddifri ganlyniadau methiant y bleidlais dros ddatganoli ym 1979. Doedd sefydliad y Steddfod ddim yn barod i dderbyn yr her honno, ac erbyn heddiw efallai fod y bardd ei hun wedi derbyn maddeuant. Ond maer her yn aros yn y gyfrol hon. Ar adegau maen cyrraedd uchelfannau beirdd fel Waldo: Mewn un cae mae haenau cof. Ar un bryn bu bwrw haul ir ogof ddihun syn fagddu ynof. Mae yma'r un cyfuniad o hanes a chyfoesedd, o ymlyniad at ardal a theulu ac o olwg ar y gorwel pell. Mae yma hefyd gerddi personol iawn yn ymateb i golledion agos yn ei deulu ai gymdeithas. Dyma un o feirdd mwyaf emosiynol ei genhedlaeth. Does yma ddim o galedwch Gerallt Lloyd Owen na thywyllwch Alan Llwyd. Mae on llawer nes at ei bobl ei hun, ei deulu ai gymdogion. Iddo fo mae Awst yn gyfriniol, dyma agoriad ei gerdd Awst syn cofio ei gefnder Ainsleigh a fu farw ar ddiwedd Awst 2002: Bydd storom Awst yn mwstro mellt cyn dod i ben chawod benwyllt chwimed chomed chwil ar gered, y fedel yn sarn, a sbwriel ei siwrnen blith-draphlith wedir drin. Yn ei eiriau ei hun, yn y gyfrol hon maen ymateb i drasiediau personol, i golledion garw ei frodyr, ond hefyd i ryfeddod a llawenydd genedigaeth wyrion syn cynnig dyfodol newydd. A dyma i mi ddyfnder a thrwch y gyfrol. Y gallu i gloriannur colledion ar enillion. A hefyd ei allu parhaol i weld, fel hen wr Pencader, ein gallu fel Cymry i oroesi. Yn ei gerddi caeth a rhydd, yn ei gyfieithiadau gorchestol o waith un oi arwyr, Dylan Thomas, yn ei farwnadau ai foliadau, mae T. James Jones yn cipio pinaclau ein barddoniaeth fel cenedl. Iwan Llwyd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |