Hurry - Only 2 left in stock!
|
Dyma gofiant cyflawn sy’n llawn deunydd newydd am fywyd y Cymro
Cymraeg a ddylanwadodd gymaint ar fywyd yr ugeinfed ganrif – llyfr
fydd yn dangos bod ei Gymreictod yn greiddiol i’w waith a’i
fydolwg.
Ceir deunydd newydd, dadlennol gan y newyddiadurwr Ioan Roberts a
ddaeth i nabod Philip a chael sawl cyfweliad ag e cyn ei
farwolaeth.
“He was the greatest photographer and one of the finest journalists
of my lifetime, and a humanitarian to match. His photographs of
ordinary people, from his beloved Wales to Vietnam and the shadows
of Cambodia, make you realise who the true heroes are. He was one
of them.”
John Pilger
*Cyhoeddwr: Y Lolfa*
Roedd Philip Jones Griffiths wedi dweud fwy nag unwaith nad
ffotograffydd rhyfel oedd o. Ac roedd yn iawn. Roedd yn llawer mwy
na hynny. Mae ei luniau’n dal yr holl densiynau sy’n gallu arwain
at ryfel, a’r tristwch a’r cymhlethdod sy’n dilyn. Pobl sydd yn y
ffotograffau, nid arfau; gwrthdaro dwfn, nid ymladd arwynebol. Dim
ond ffocws oedd rhyfeloedd.
Pan dynnodd Philip Jones Griffiths lun o danc, roedd yna gyd-destun
– bachgen yn Grenada yn chwarae pêl-droed yn union o dan faril
anferth y gwn. Pan ddangosodd o lond cwch o filwyr Americanaidd yn
glanio ar draeth, roedd yna dair merch leol yn torheulo ym mlaen y
llun.
Sawl tro, mae yna un wyneb clir ynghanol tyrfa neu goedwig o
blanhigion; mae tai a phobl werinol y Dwyrain yng nghysgod sloganau
llachar cyfalafol y byd gorllewinol; yng Ngogledd Iwerddon, mae
milwyr bygythiol ochr yn ochr â phobl a phlant sy’n byw eu bywydau
bob dydd.
Yn Rhuddlan y dechreuodd y cyfan. Fwy nag unwaith mi soniodd am y
pentre oedd wedi ei ddal mewn tanchwa ddiwylliannol, a chymdeithas
Gymraeg ei blentyndod yn cael ei boddi gan lif o bobl o lannau
Mersi. Dyna’r math o wrthdaro oedd yn sylfaen i’w holl waith wedyn.
Rhyfel diwylliannol, economaidd a moesol sy’n rhoi ffurf i’w
waith.
Ymhlith y detholiad o luniau yn y gyfrol yma, mae rhai o’r
enghreifftiau enwoca: wyneb mam yn edrych i fyw’r lens a wynebau
dilygaid ei dwy ferch o boptu iddi; gwraig arall a’i hwyneb wedi ei
losgi’n ulw gan napalm ochr yn ochr â wyneb perffaith y ferch
amddifad yr oedd wedi’i mabwysiadu.
Canlyniadau Rhyfel Fietnam oedd y rheiny, wrth gwrs, y rhyfel a
roddodd gyfeiriad clir i yrfa’r cyw-fferyllydd a ddaeth yn Llywydd
ar Magnum, asiantaeth ffotograffiaeth enwoca’r byd, ac a helpodd
newid agwedd ei genhedlaeth at ryfel.
Mae’r gyfrol deyrnged yma’n gyflwyniad da iawn i’r dyn a’i waith
ac, yn addas, y rhannau mwya gwreiddiol ydi’r sgyrsiau efo pobl
oedd yn nabod y Philip ifanc ac sy’n gosod y crwydrwr a’r anturiwr
yn ei gymdogaeth.
Mae yna luniau da wedi’u dethol a dyfyniadau a sylwadau – gan
Philip Jones Griffiths a’i edmygwyr – yn rhoi dwyster i’r dweud.
Mae’r sgrifennu’n glir ac effeithiol – mae Ioan Roberts yn gallu
gwneud i fanylyn fynegi llawer ac yn amseru pryd i bwyso’r
botwm.
Hunangofiant oedd y gobaith gwreiddiol, a fyddai neb yn gallu
crynhoi ei fywyd fel Philip Jones Griffith ei hun, efo’i graffter
a’i ffraethineb. Camp a chymwynas y gyfrol yma fydd gyrru pobl at
luniau a sylwebethau pwerus y bachgen o Sir y Fflint.
*Dylan Iorwerth @ www.gwales.com*
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |