Mewn dyddiau digidol syn prysur troi yn ddiwrnodau di-lyfr mae hin fwy o gamp nag erioed i gael pobl i ddarllen. Sut, felly, mae sicrhau fod pobl yn troi at lyfrau? Un syniad campus, wrth gwrs, yw cyfres Stori Sydyn, sef cyfres o lyfrau byr, rhyw gan tudalen o hyd, y gellir eu darllen mewn dim o dro. Ar ben hynny, mae modd prynur cyfrolau am y nesaf peth i ddim. Stori fer yw Y Gosb, ac ir rhai ohonoch syn gyfarwydd gwaith Geraint Evans, gwyddoch am ei ddawn i greu straeon ditectif gafaelgar, a pherthyn ir genre poblogaidd hwnnw y maer stori hon. Hanes Erin a geir yma ai hymdrechion i ddial ar y sawl a ymosododd arni. Cryfder y stori yw ei bod yn cymell y darllen sef union bwrpas y gyfres hon, wrth gwrs. Maer storin gwibio yn ei blaen gan greu ysfa chwilfrydig i weld beth yn union syn digwydd. Synhwyrir bod yna dro ar ddiwedd y stori wrth iddi fynd yn ei blaen, ond maer tro hwnnw, pan ddaw, yn annisgwyl a chyffrous, a dyna gamp awdur nofelau ditectif da. Ni cheir yma lawer iawn o ddadansoddi nac ymdriniaeth o effaith yr amrywiol brofiadau cas ar Erin, ond nid dyma bwrpas y stori, a byddai gwneud hyn mewn cyfrol fer yn anodd, heb iddo arafu llif y naratif. Ir darllenydd cyson dyma gyfrol ddiddorol i lenwi awr go dda ond ir sawl nad yw'n gyfarwydd throi at nofelau Cymraeg, dyma stori hwylus iw darllen. Gallair plot, maen siwr, fod yn fwy cymhleth ac amlhaenog, ond cofier nad creu rhyw Trapped o nofel ywr bwriad. Beth am brynu'r gyfrol, a llyfrau eraill cyfres Stori Sydyn, i ffrindiau a chydnabod a fydd yn elwa or gyfres? Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
![]() |
Ask a Question About this Product More... |
![]() |